Cymraeg
Cymraeg
Rhaglen Grundtvig: Cyfleoedd i Ddysgwyr a Darparwyr Addysg i Oedolion |
Mae rhaglen Grundtvig yn rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes newydd y Comisiwn Ewropeaidd a’i nod yw cryfhau’r dimensiwn Ewropeaidd mewn addysg i oedolion a dysgu gydol oes ar draws Ewrop.
Yn benodol, mae Grundtvig yn ceisio delio â sialens addysgol poblogaeth sy’n heneiddio, gan gynnig llwybrau amgen i oedolion er mwyn eu galluogi i ddiweddaru eu sgiliau a’u galluoedd. Mae Grundtvig yn cynnwys pob math o gyfleoedd dysgu, os yw’r rhain yn digwydd yn y system addysg ‘ffurfiol’ neu ‘di-ffurfiol’ i oedolion, neu mewn ffyrdd ‘anffurfiol’, megis dysgu annibynnol, dysgu cymunedol neu ddysgu profiadol.
Gall unrhyw un ym maes addysg i oedolion gymryd rhan gan gynnwys dysgwyr sy’n oedolion, athrawon a hyfforddwyr o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol, elusennau, prifysgolion, grwpiau cymunedol, ac ati. Yn rhaglen Grundtvig, mae ‘Oedolyn’ yn cyfeirio at bob unigolyn dros 25 oed a phob unigolyn rhwng 16 a 24 oed nad ydynt yn cael addysg gychwynnol yn y system addysg ffurfiol mwyach.
Mae grantiau ar gael ar gyfer ystod eang o weithgareddau. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys sgiliau sylfaenol, ieithoedd tramor, addysg rhianta, y celfyddydau a diwylliant. Mae pob prosiect yn ymwneud â gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd, gan gynnig profiad datblygiad personol a dysgu gwych i staff a dysgwyr.
Beth allwch chi ei wneud?
Gallwch wneud cais i:
- Fynychu cwrs, cynhadledd neu gyfnod sodli gwaith mewn gwlad Ewropeaidd arall am hyd at 6 wythnos.
- Cyfranogi mewn Partneriaeth Ddysgu a gweithio gyda sefydliadau Ewropeaidd eraill er mwyn cydweithio ar thema benodol sy’n ymwneud ag addysg i oedolion. Mae Partneriaethau Dysgu yn cynnig y cyfle i chi gynnwys eich staff a’ch dysgwyr mewn prosiect Ewropeaidd ac mae’r manteision yn gallu bod yn enfawr.
- Cyfarfod partneriaid posibl mewn gwlad Ewropeaidd arall er mwyn eich helpu i wneud cais am Bartneriaeth Ddysgu gyda’ch gilydd.
Sut allwch chi gael gwybod mwy?Rheolir Asiantaeth Genedlaethol Grundtvig ar gyfer y DU gan Ecorys. Rydym yn darparu help, cyngor ac arweiniad ynghylch sut i wneud cais am arian Grundtvig. Gallwch gysylltu â ni trwy anfon e-bost at grundtvig@uk.ecorys.com neu ffonio ein llinell gymorth sef 0845 199 1919. |
|

